Hafan

Dyma’r rhwydwaith sy’n ysgogi pawb i ddefnyddio’r iaith Gymraeg o fewn y maes amgylcheddol. Eich rhwydwaith chi yw hwn, sef pawb sydd â diddordeb yn amgylchedd naturiol Cymru, boed yn broffesiynol neu’n lleyg. Gwyddom bod amgylchedd Cymru ymysg y cyfoethocaf o ran ei gynefinoedd a’i dirweddau ond mae ei ddiwylliant a’i ieithwedd yn rhan annatod o’r cymysgedd bendigedig hwn. Yma cewch fynediad i wefannau eraill yn ogystal â gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan mewn prosiectau amrywiol ac i gyfrannu o’ch profiad a’ch gwybodaeth eich hun.