Ar hyn o bryd anelir at sefydlu’r Un Corff amgylcheddol ar 1 Ebrill 2013 er nad yw’r dyddiad cychwyn wedi ei gadarnhau’n bendant eto. Mae’n debyg y bydd y tri sefydliad presennol: Asiantaeth yr Amgylchedd, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yn parhau fel tri chorff nes bydd y corff newydd yn barod i weithredu’n llawn.
Mae disgwyl i’r Cadeirydd newydd ddechrau yn ei rôl erbyn diwedd mis Gorffennaf fel y gall chwarae rhan yn y penderfyniad ynghylch pwy i’w b/phenodi yn Brif Weithredwr. Y nod yw penodi Prif Weithredwr erbyn diwedd mis Awst.
Mae’r gwaith o greu gweledigaeth a chytuno ar werthoedd a hunaniaeth yr Un Corff wedi dechrau trwy ymgynghori â holl staff y tri chorff presennol ac mae’r gwaith o baratoi’r Cynllun Iaith eisoes ar waith. Disgwylir i’r cynllun adlewyrchu’r safonau newydd a fydd yn cael eu sefydlu o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.


Gwefannau cyrff a mudiadau defnyddiol