‘Parth croeso’ newydd ar gyfer hanes natur yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau ar lawr gwaelod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r gofod newydd hwn yn cynnwys creaduriaid, dail a ffosiliau anferth, ac yn rhoi cyflwyniad cyffrous i’r orielau hanes natur.
Rydym yn awyddus i ymwelwyr gael eu hysbrydoli gan gyfoeth byd natur, i ddeall y prosesau sy’n ei reoli a’i newid ac i weld sut mae ein gweithredoedd ni yn dylanwadu arno neu’n ei gynnal. Ond mae amgueddfa hanes natur yn fwy nag arddangosfeydd mewn orielau yn unig. Mae’r casgliadau, y data, y gwyddonwyr ymchwil ac effeithiau byd-eang eu harbenigedd yn allweddol hefyd. Yn y parth croeso gall ymwelwyr gasglu taflenni arbennig a fydd yn eu tywys trwy’r orielau, gan archwilio’r themâu hyn, a mwy. Bydd taflenni newydd hefyd yn cynnwys ein horiel newydd, Cipolwg, sy’n egluro gwaith gwyddonwyr yr amgueddfa. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn adnoddau gwerthfawr sy’n cefnogi cadwraeth a phenderfyniadau byd-eang, wrth inni ryngweithio â’n planed.


Gwefannau cyrff a mudiadau defnyddiol