Cychwynnodd cyfnod newydd ym maes polisi iaith yng Nghymru ddechrau mis Ebrill eleni. Daeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ben a chychwynnodd Meri Huws yn swydd newydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg. Sefydlwyd swydd y Comisiynydd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a bydd Swyddfa’r Comisiynydd yn goruchwylio trefn newydd a fydd yn cymryd lle’r Cynlluniau Iaith Gymraeg, a baratowyd ac a weithredwyd gan gyrff cyhoeddus ers 1996. Cewch wybod mwy am swydd a phwerau’r Comisiynydd drwy glicio ar y ddolen hon.
Yn lle’r Cynlluniau Iaith, bydd Safonau Iaith yn cael eu sefydlu a bydd hi’n ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud trefniadau priodol i gydymffurfio â hwy. Mae fersiwn drafft o’r Safonau Iaith wedi ei baratoi, ac mae’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd. Gallwch ddarllen y Safonau Drafft a bwrw sylwadau arnynt drwy gysylltu â’r ddolen hon. Mae’r Comisiynydd yn awyddus i dderbyn sylwadau nid yn unig ar ran cyrff cyhoeddus ond hefyd gan unigolion.
Yn y cyfamser, rhaid i gyrff cyhoeddus barhau i weithredu eu Cynlluniau Iaith Gymraeg hyd oni ddaw’r drefn newydd yn weithredol.


Gwefannau cyrff a mudiadau defnyddiol