Mae’r Gymdeithas adar, RSPB Cymru, am roi mwy o bwyslais nag erioed o’r blaen ar wella ei darpariaeth ddwyieithog. Yn ddiweddar cymerodd yr elusen gam beiddgar tuag at gyflawni hyn drwy benodi swyddog cyfathrebu ychwanegol gyda chyfrifoldeb – yn wir mae’n un o’i brif ddyletswyddau – o sicrhau bod gan yr elusen wasanaeth dwyieithog penigamp.
Mae gan y Gymdeithas Gynllun Iaith Gymraeg ers 2006 – yr elusen gyntaf yng Nghymru i gael cynllun wedi’i gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith – ac mae diweddariad ohono ar y gweill ar hyn o bryd a fydd yn cryfhau ymhellach ei hymrwymiad i’r Gymraeg. Am flynyddoedd bellach, mae pob adnodd cyhoeddus newydd sy’n cael ei greu gan RSPB Cymru yn ddwyieithog, a’r bwriad yw cael gwared ag unrhyw hen ddeunyddiau nad ydynt yn ddwyieithog mor gyflym â phosib. “Mae natur Cymru mewn trybini mawr” yn ôl Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru. “Yn debyg i’r Gymraeg, mae’n rhan amhrisiadwy o’n treftadaeth ac mae peryg iddi ddiflannu o flaen ein llygaid. Mae’n hollbwysig felly bod cyrff fel y RSPB yn defnyddio’r Gymraeg yn naturiol o fewn eu gwaith. Er mwyn achub natur mae’n rhaid i ni gael cymaint o gefnogaeth gan bobl Cymru â phosib. Yr unig ffordd y medrwn ni wneud hynny yw profi bod gwaith y RSPB yn berthnasol i fywydau pawb ac i’r cymdeithasau maent yn byw ynddynt. Fedra’i ddim dychmygu gwneud hynny ond trwy weithredu yn ddwyieithog”.
Bwriad yr RSPB dros y blynyddoedd nesaf yw gwella a chynyddu nifer y gwasanaethau a gynigir trwy gyfrwng y Gymraeg – gwefan newydd, tudalennau cyfryngau cymdeithasol, teithiau cerdded, sgyrsiau ac ati. Yn sgil hyn, mae RSPB Cymru yn gobeithio denu mwy a mwy o Gymry Cymraeg i wirfoddoli er lles amcanion y Gymdeithas.
Byddai croeso ichi gynnig cymorth mewn unrhyw ffordd. Am ragor o wybodaeth danfonwch e-bost neu ffoniwch (01248) 676763.


Gwefannau cyrff a mudiadau defnyddiol