Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon er cof am Geraint George a oedd yn amgylcheddwr, addysgwr a chyfathrebwr brwd. Roedd wrth ei fodd yn gweithio gyda phobl ifanc a’u hannog i drafod a ffurfio barn am bynciau amgylcheddol yng Nghymru a thu hwnt. Trefnir yr ysgoloriaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Nod yr ysgoloriaeth flynyddol, sy’n agored i unigolion 18-25 oed, yw meithrin cyfathrebwyr gwych a all ein helpu ni’r Cymry i werthfawrogi’r byd naturiol a deall y ffactorau sy’n effeithio arno.
Gwahoddir cystadleuwyr i anfon gwaith mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru. Caiff yr enillydd ddewis un ai ymweld â Pharc Cenedlaethol Triglav yn Slofenia (sydd wedi gefeillio â Pharc Cenedlaethol Eryri), neu fynychu cynhadledd Ewroparc a gynhelir mewn gwahanol ran o Ewrop bob blwyddyn.
Gwahoddir gwaith ar ffurf unrhyw un, neu gyfuniad o’r canlynol:
- Ffilm fer (1-3 munud)
- Blog (wythnos o leiaf)
- Eitem sain (1-3 munud)
- Erthygl(au) (hyd at 3)
- Cartwnau (hyd at 6)
- Poster(i) ( hyd at 3)
- Taflen(ni) (hyd at 3)
- Ysgrif(au) (hyd at 3)
- Stori/Straeon (hyd at 3)
- Neu unrhyw gyfrwng o ddewis yr ymgeisydd
Dylid anfon y gwaith at yr Urdd erbyn 1af Mawrth 2013 naill ai ar ffurf electronig neu ddau gopi caled o’r gwaith – bydd manylion pellach ar wefan yr Urdd maes o law.


Gwefannau cyrff a mudiadau defnyddiol