Rhwydwaith er hybu'r Gymraeg yn y maes amgylcheddol
Rydych yma: Hafan » Cyhoeddi a Chyhoeddiadau » Cronfa Cyhoeddiadau
Gweler rhestr o gyhoeddiadau Cymraeg islaw pennawd “Cyhoeddiadau”, yn agos at waelod dudalen Cymraeg gwefan yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod. Cliciwch ar y dolenni i weld dogfenni Cymraeg ar ffurf pdf.
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn comisiynu ymchwil ar bob math o agweddau o waith y corff yn rheolaidd. Er yn aml mae’r adroddiadau wedi cael eu hysgrifennu yn y Saesneg mae gan bob un ohonynt grynodeb gweithredol wedi’i hysgrifennu yn y Gymraeg.
Mae gan y Cyngor Cefn Gwlad nifer fawr o ddeunyddiau ac adnoddau – gan gynnwys posteri ar gyfer yr ystafell ddosbarth a thaflenni ffeithiau’n sôn am dreftadaeth naturiol gyfoethog tirweddau ac arfordir Cymru ac am y myrdd o rywogaethau sy’n byw yno. Mae pob un o’r cyhoeddiadau yn ddwyieithog ac mae’r Cyngor yn anelu at y safon uchaf o ran ei chyfathrebu.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n cyhoeddi amrediad o lyfrynau a dogfennau ynglŷn a’i gwaith, coedwigaeth a choedwigoedd yn gyffredinol. Mae rhain yn ddwyieithog.
Hawlfraint © 2012 - Amgylchedd.com - Cedwir Pob HawlGwefan gan Cynllunio Pentir Design Pwerwyd gan WordPress a Thema Atahualpa