Golygwyd y neges 2:19 pnawn – 20/10/2011 gan cegin
1 Postio Negeseuon
a. Dylid postio â pharch tuag at aelodau eraill y fforwm. Ni ddylid ymosod yn bersonol ar unrhyw aelod arall.
b. Os welwch chi rywbeth sy'n torri un o'r canllawiau yma, tynnwch sylw y cymedrolwr ato. Peidiwch ag ymateb yn ffyrnig i aelodau sy'n torri'r rheolau.
c. Ni ddylid ar unrhyw gyfri bostio darluniau anaddas na phornograffig.
ch. Caiff unrhyw ddeunydd sy’n torri’r gyfraith o rhan hawlfraint ac enllib ei ddileu'n syth, a rhoddir rhybudd/gwaharddiad i'r rhai a'i bostiodd.
d. Gall postio lluniau oddi ar wefannau pobl eraill achosi problemau.
dd. Dylid cadw at destun arferol – peidiwch â gor-ddefnyddio gwenogluniau (
), ffontiau mawr a bychain, LLYTHRENNAU BRAS, gormod o farciau atalnodi na lliwiau gwahanol.
e. Cymerwch ofal gyda theitl eich edefyn – cewch gwell ymateb drwy roi gwybodaeth penodol ynddo.
f. Cofiwch ddarllen eich sylwadau cyn eu postio.
ff. Mae croeso i chi ddefnyddio fforwm amgylchedd.com i hybu digwyddiadau neu gyhoeddiadau ond bydd sbamwyr yn cael eu rhybuddio/gwahardd.
g. Mae gan cymedrolwyr a gweinyddwyr fforwm amgylchedd.com yr hawl i olygu neu ddileu unrhyw neges am unrhyw reswm.
2. Rhithffurfiau a llofnodion
a. Cewch ddewis rhithffurf – ni ddylai rhithffurfiau fod yn fwy na 80x80 picsel, 8kb o faint, na chael eu hanimeiddio. Ni ddylech ddefnyddio rhithffurf sy'n cael ei ddefnyddio gan aelod arall.
b. Mae'r canllawiau uchod ynglyn â chynnwys ac ansawdd negeseuon yn berthnasol i lofnodion a rhithffurfiau hefyd.
3 Cyfrifon
a. Un aelod, un cyfrif – peidiwch ag agor mwy nag un cyfrif.
b. Peidiwch â chreu cyfrif mewn enw rhywun arall neu rhywun adnabyddus.
4 Cadw trefn
a. Mae fforwm amgylchedd.com yn defnyddio trefn ‘3 thrawiad’. Caiff defnyddwyr eu rhybuddio i fyny at dri tro. Caiff y defnyddiwr ei wahardd am barhau i dorri'r rheolau.
b. Mewn achosion difrifol iawn caiff cyfrifau eu cau yn ddi-rybudd ac yn derfynol. Gall hyn gynnwys bygwth aelodau arall, postio negeseuon milain, neu anwybyddu rhybuddion gan gymedrolwyr.