Golygwyd y neges 5:43 pnawn – 17/11/2011 gan Sian Shakespear
Newydd ddychwelyd o dro i ben Moelyci uwchben Rhiwlas a Thregarth, y bryn agosa' at fy nghartref a gwelais olion grugieir unwaith eto! Maent yn amlwg yn dewis gaeafu ar lethrau grugiog y foel ond tybed a wnawn nhw fagu cywion yma unwaith eto rhyw ddydd? Efallai nad oedd y tanau dinistriol a losgodd clytiau o rug yn ulw nifer o flynyddoedd yn ol yn ddigwyddiadau mor andwyol a hynny wedi'r cyfan! A fydd y grug ifanc sydd wedi ail-dyfu yn y mannau hyn yn creu cynefin delfrydol i rugieir nythu tybed?