Mae nifer o gyrff wedi cydnabod pa mor bwysig yw hi i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr a rhai sydd mewn swyddi amgylcheddol i ddysgu a derbyn hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Dim ond trwy ddysgu am faterion a gwybod mwy am bynciau amgylcheddol yn y Gymraeg y gallwn eu trin a’u trafod drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn anad dim gall dysgu am ac ymdrin ag amgylchedd Cymru drwy gyfrwng ein iaith gynhenid ychwanegu dyfnder at y drafodaeth a’r profiad.
Cliciwch ar fotwm Gwaith a Gyrfaoedd i ddarganfod mwy am sut i gychwyn gyrfa amgylcheddol. Os pwyswch ar Cyfleoedd Hyfforddi cewch hyd i gyfleoedd hyfforddi ffurfiol ac anffurfiol ledled Cymru a phwyswch ar Prosiectau ar y gweill i gael gwybod am y gwaith sydd ar y gweill i hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn sefydliadau addysg a hyfforddi Cymru. O bwyso ar fotwm Cyfleoedd Gwirfoddoli cewch wybod am gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau.
Ychwanegu i Google

Gwefannau cyrff a mudiadau defnyddiol