Gwaith a Gyrfaoedd

Tasg gadwraethol - ar ôl clirio llwyni a phrysgwydd o gors Efallai eich bod yn hoff o awyr iach a’r syniad o gyflawni rhywbeth er lles amgylchedd Cymru ynghyd ag ennill arian ar yr un adeg. Mae cyfleoedd yn codi i wneud gwaith a dilyn gyrfa yn yr amgylchedd o fewn Cymru a thu hwnt yn aml. Afraid dweud bod ennill cymhwyster da o fewn y maes yn gam cyntaf hanfodol i fachu’ch swydd ddelfrydol. O siarad gyda phobl sydd yn gweithio yn, neu er lles y cefn gwlad, mae ennill profiad drwy wirfoddoli yn thema barhaol. Er bod brwdfrydedd heintus yn gallu mynd â chi’n bell, mae dangos tystiolaeth eich bod wedi ‘gwneud’ yn hytrach na dim ond ‘dweud’ yn gallu mynd â chi ymhellach. Mae’r maes amgylcheddol yn gystadleuol iawn gyda llawer o bobl yn ceisio am bob swydd wag. Mae sicrhau bod eich cais chi yw’r gorau’r gellith fod yn bwysig – gall angerdd eich galluogi i gnocio ar y drws ond gall atalnodi da ei hagor i chi!

Ymddiheurwn fod rhai o’r gwefannau isod yn y Saesneg yn unig!

Swyddi Gwag

Comisiwn Coedwigaeth Cymru Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Asiantaeth yr Amgylchedd Parc Cenedlaethol Eryri Amgueddfa Cymru

Cyngor am Swyddi gan GyrfaCymru.com

Gyrfaoedd Amgylcheddol Gyrfaoedd Mewn Coedwigaeth Gyrfaoedd yn yr Amgylchedd