Newyddion

Cyflwyniad i ddatblygu cynaliadwy Introduction to sustainable developmen
Hyfforddwr: Cynnal Cymru

Hyd 1 diwrnod

Fformat Gweithdy

Trainer: Cynnal Cymru

Duration 1 day

Format Training course

Thursday 30 September Bangor Dydd Mercher 13 Hydref Bangor
Nodau

Esbonio’r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy. Dangos bod y cysyniad yn berthnasol iawn i ddatblygiad cymunedol ac i weithredu gwirfoddol, ac nad jargon ydy o.

Esbonio cynaliadwyedd a’i bwysigrwydd mewn ffordd syml a chlir.

Cynnwys

Mae “Datblygu Cynaliadwy” yn derm sy’n cael ei ddefnyddio’n eang, dyna’r cysyniad sy’n diffinio’r oes sydd ohoni ac sy’n hanfodol os ydym am oroesi fel cymdeithas.  Ond beth mae’r term yn ei olygu mewn gwirionedd?

Mae mudiadau sy’n mabwysiadu datblygu cynaliadwy nid yn unig yn fwy cydnerth, effeithlon ac atebol ond hefyd yn gallu ymdopi’n well â heriau cyfredol a heriau yn y dyfodol megis newid hinsawdd.

Yn y cwrs undydd hwn, byddwn yn eich helpu i gyrraedd y pwynt lle rydych yn hapus i egluro’r cysyniad a’i ddefnyddio yn eich gwaith eich hun.

Darperir y cwrs hwn gan Cynnal Cymru – Sustain Wales sy’n bodoli er mwyn hybu dealltwriaeth o’r egwyddorion sydd y tu ôl i ddatblygu cynaliadwy ac i gynorthwyo pobl sy’n ceisio creu Cymru gynaliadwy.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y diwrnod, byddwch yn gallu:

  • · Diffinio a deall datblygu cynaliadwy
  • · Deall pam mae datblygu cynaliadwy yn bwysig i’ch mudiad
  • · Rhoi egwyddorion datblygu cynaliadwy ar waith yn eich mudiad / maes gwaith
  • · Gwybod ble i fynd am gyngor a chymorth
  • · Dangos ei fod yn fwy na blwch arall i roi tic ynddo – yn hytrach, ei fod yn ffordd wahanol o edrych ar y byd

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer gwirfoddolwyr neu staff cyflogedig sy’n newydd i’r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy, neu sy’n gyfarwydd â’r term ond sydd angen eglurhad ar ei ystyr a’r cyd-destun

Aims

To explain the concept of sustainable development.  To show that the concept is not jargon, but extremely relevant to community development and voluntary action.  To give a simple, clear explanation of sustainability and its importance.

Content

“Sustainable Development” is a widely used term, the defining concept of our age, fundamental to our survival as a society but what does it really mean?

Organisations who embrace sustainable development are not only more robust, efficient and accountable, but are better able to meet current and future challenges such as climate change.

In this one day course we will help you reach the point where you are comfortable explaining the concept and applying it in your own work.

This course is delivered by Cynnal Cymru-Sustain Wales which exists to promote understanding of the principles behind sustainable development and to assist people seeking to bring about a sustainable Wales.

Learning outcomes

By the end of the day, you will be able to…

  • · Define and understand sustainable development
  • · Understand why sustainable development matters to your organisation
  • · Apply sustainable development principles to your organisation / area of work
  • · Know where to go for support and advice
  • · Show that it is not just an extra box to tick but a different way of looking at the world

Who is it for?

The course is suitable for volunteers or paid staff who are new to the concept of sustainable development, or who are familiar with the term but require clarification on its meaning and context.

Ffioedd A £125 (+TAW) B £155 (+TAW) C £185 (+TAW) Fees: A £125 (+VAT) B £155 (+VAT) C £185 (+VAT)

I archebu lle ewch i wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Bydd Duncan Brown a Twm Elias yn rhannu eu gwybodaeth arbenigol am enwau a thermau byd natur a’r amgylchedd mewn gweithdy yn ystod mis Mawrth.

Nod y gweithdy, a drefnir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yw rhoi arweiniad ymarferol ynglŷn â’r enwau a’r termau priodol i’w defnyddio wrth drafod byd natur a’r amgylchedd. Cyfeirir at ffynonellau dibynadwy ac, yn absenoldeb rhestrau safonol, sut i gael gafael ar wybodaeth a chyngor. Bydd y gweithdy hefyd yn trafod y broses o lunio a datblygu enwau a thermau, ac yn cyfeirio at gylchgronau a deunyddiau ysgrifenedig eraill.

“Rhan bwysig o’n rhaglen datblygiad proffesiynol yw gweithdai ar bynciau arbenigol er mwyn ehangu gwybodaeth cyfieithwyr am y meysydd hynny,” meddai Judith Kaufmann, Rheolwr Datblygiad Proffesiynol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

“A phwy well wrth drafod enwau a thermau byd natur na Duncan a Twm y mae eu gwybodaeth am y maes yn eang a’u brwdfrydedd yn heintus.”

Bydd y gweithdy’n cynnwys dau sesiwn maes fydd yn gyfle i ddysgu wrth fynd am dro o amgylch y ganolfan lle cynhelir y gweithdy. Bydd un yn disgrifio gwyfynod neu bryfed cannwyll. Bydd y llall yn gyfle i ddysgu am ddywediadau ac idiomau o fyd natur, disgrifiadau o gynefinoedd, ieithwedd a chywair perthnasol.

Cynhelir y gweithdy ddydd Iau, 4 Mawrth 2010, yng Nghanolfan Fynydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Libanus, ger Aberhonddu; ac yna ym Mhlas Tan-y-bwlch, Maentwrog, ddydd Iau, 18 Mawrth 2010.

Cost lawn y gweithdy yw £50.00. Mae gostyngiadau ar gael i aelodau a chyfeillion Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yn ogystal ag aelodau sefydliadau sy’n aelodau o Weithgor Iaith Gymraeg y Sector Amgylcheddol. Mae’r gweithdy yn gyfraniad gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru i waith Gweithgor Iaith Gymraeg y Sector Amgylcheddol.

Mae’r Gweithgor yn tynnu ynghyd nifer o gyrff a mudiadau amgylcheddol yn ogystal â chynrychiolwyr o’r maes addysg uwch, y maes cyfieithu, y maes cynllunio ieithyddol a’r maes datblygu geirfa a therminoleg, er mwyn hybu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ym maes yr amgylchedd.

I gael gwybod rhagor am y gweithdy ewch i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru – www.cyfieithwyrcymru.org.uk, neu cysylltwch â Judith Kaufmann ar  01248 371839  .

Nodiadau:

I gael gwybod rhagor am y rhaglen o weithdai, dilynwch y ddolen hon i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/gweithdai-20.aspx.

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn un o brif bartneriaid Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn cael grant blynyddol ganddo.

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff proffesiynol sy’n cynorthwyo cyfieithwyr Cymraeg/Saesneg. Ei nod yw sicrhau safonau proffesiynol ar gyfer cyfieithu Cymraeg/Saesneg. Mae gan y Gymdeithas ei threfn arholi ac asesu ar gyfer cyfieithwyr testun a chyfieithwyr ar y pryd. Bydd hi hefyd yn cynnal gweithdai a chynadleddau ac yn cynghori ar faterion cyfieithu.

Cyfeiriad ei swyddfa yw: Bryn Menai, Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2JA

I gael gwybod rhagor, cysylltwch â Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru - 01248  371839