Termau a Chyhoeddiadau

Gwas y NeidrMae llawer ohonom sy’n gweithio neu’n ymddiddori yn y maes amgylcheddol wedi derbyn y rhan fwyaf o’n gwybodaeth a’n hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg. O ganlyniad nid oes llawer ohonom yn gyfarwydd â geirfa Gymraeg a thermau Cymraeg. Gall rhestrau dibynadwy o eirfa a thermau ein helpu i fagu hyder wrth drin a thrafod materion amgylcheddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda’r eirfa a’r derminoleg angenrheidiol yn gefn i ni, gallwn sicrhau mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn y maes amgylcheddol yng Nghymru. Mae hi hefyd yn bwysig cael amrywiaeth dda o ddeunydd poblogaidd sy’n annog mwy o bobl i gynefino a gwneud defnydd o eirfa a thermau – nid pawb sy’n dotio ar bori drwy restrau maith!

Os ydych yn chwilio am enw rhywogaeth gallwch geisio’i ddarganfod ym MaesT, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor drwy bwyso ar Chwilio am enw rhywogaeth a gallwch wneud yn debyg os ydych yn Chwilio am derm amgylcheddol a thrwy hyn archwilio basdata TermCymru. Cliciwch ar y ddolen Cronfa termau i ddarganfod pa ffynonellau sydd ar gael ac ar ddolen Prosiectau ar y gweill am fwy o wybodaeth am waith sydd ar y gweill i greu rhestrau safonol o enwau a thermau. Mae’n bwysig i ni allu rhannu’n darganfyddiadau, barn neu gofnodion yn y Gymraeg ac felly dyma restr o’r Cyfleoedd cyhoeddi sydd ar gael. Gallwch hefyd ddarganfod mwy ynglŷn â’r hyn sydd wedi’i gyhoeddi yn y Gronfa cyhoeddiadau.